Holl Newyddion A–Y
2 INTERNIAETH PYTHEFNOS YR UN BBC / TECHNOLEGAU IAITH
Mae’r BBC wedi digido ei harchif sylweddol o raglenni radio Cymraeg. Ar y cyd gydag Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, mae’n archwilio dulliau arloesol newydd i fynegeio’r archif drwy ddefnyddio technoleg lleferydd Cymraeg. Bydd yr interniaid yn cynorthwyo mewn astudiaeth beilot fydd yn edrych ar sampl bach o’r data.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017
Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd yn anrhydeddu tri ymchwilydd o Brifysgol Bangor
Mewn seremoni arbennig i gyflwyno Anrhydeddau’r RCSLT (Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd) yn Nottingham yn ystod eu cynhadledd flynyddol fis Medi, dyfarnwyd gwobr “Giving Voice” i Delyth Prys, Dewi Bryn Jones a Stefan Ghazzali o Uned Technolegau Iaith , Canolfan Bedwyr . Roedd y tri, drwy eu project Lleisiwr, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi datblygu meddalwedd i greu llais synthetig personol yn y Gymraeg a fyddai’n gymorth i gleifion oedd ar fin colli eu llais eu hun. Roedd y project yn caniatáu bancio llais y claf yn Gymraeg a Saesneg a’i ddefnyddio i adeiladu fersiwn digidol ohono.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2019
Cryfach Gyda’n Gilydd: Rhannu Adnoddau Cyfieithu yng Nghymru
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2021
Cyhoeddi project newydd i ddarparu fersiwn synthetig Cymraeg o’u llais eu hun i bobl sy’n colli eu lleferydd
Mae Uned Technolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, wedi ennill grant o £20,000 i ddatblygu rhaglen fydd yn recordio lleisiau pobl sydd mewn perygl o golli’r gallu i siarad oherwydd canser y gwddf neu glefydau eraill, a chynhyrchu fersiwn synthetig sy’n swnio’n naturiol o lais pob unigolyn. Ar hyn o bryd dim ond ar gyfer siarad Saesneg mae’r gwasanaeth hwn ar gael, ond bydd hyn am y tro cyntaf yn caniatáu i gleifion barhau i allu siarad Cymraeg gyda’u llais eu hun, yn hytrach na llais synthetig cyffredinol sy’n swnio fel robot neu lais rhywun arall. Bydd yr UTI yn gweithio gydag awdurdodau iechyd a therapyddion lleferydd i gynnig y gwasanaeth drwy Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2017
Cynhadledd Technolog A'r Gymraeg 20 Ionawr 2017
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2017
Dangos & Dalthu 25 Mawrth 2022
Ymunwch gydag Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, i ddathlu ein hadnoddau iaith newydd. Galwch heibio i ddweud helo, neu arhoswch gyda ni am y 2 awr gyfan!
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2022
Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda ni
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2024
Dyfarnu Gwobr am Wasanaethau i Ofal Iechyd Dwyieithog
Mae project i roi labeli rhybudd Cymraeg ar feddyginiaethau wedi ennill y wobr am Wasanaethau i Ofal Iechyd Dwyieithog yng Ngwobrau Cyrhaeddiad cyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Y partneriaid yn y project oedd Uned Dechnolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr a Chanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor, ar y cyd gyda fferyllwyr Ysbyty Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2016
Eisteddfod Amgen 2021
Deallusrwydd Artiffisial: Gwthio’r Ffiniau
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2021
Holiadur Cysgliad
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2020
Iaith a Technoleg yn Cymru : Cyfrol I
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2021
Innovate UK yn dyfarnu rhagoriaeth i Brifysgol Bangor am Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth mewn Cyfieithu Peirianyddol
Dyfarnwyd gradd A (Rhagoriaeth) i Brifysgol Bangor a Cymen Cyf am eu Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a gwblhawyd yn ddiweddar. Mae Cymen yn gwmni cyfieithu a leolir yng Nghaernarfon, ac mae’n un o brif gyflogwyr graddedigion yng Ngwynedd yn y sector breifat. Prif ffocws y KTP oedd datblygu cyfieithu peirianyddol parth-benodol rhwng Saesneg a Chymraeg, gan ddefnyddio archif fawr Cymen o ddogfennau wedi’u cyfieithu fel data hyfforddi.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2019
Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae cyfle yn yr Uned i fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Bangor wneud interniaeth 150 awr gyda ni rhwng Chwefror a Mai 2018 yn trawsgrifio rhagor o archif sain sylweddol y BBC. Dyma gyfle gwych i rywun sydd â diddordeb mewn trawsgrifio a thechnoleg iaith ddod i ddeall mwy am y maes a gweithio mewn awyrgylch ddifyr a chyffrous. Mae’r manylion llawn i’w cael yma.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2017
Interniaeth Prifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2021
Leena a Preben yn dod i’r brig yng nghystadleuaeth ryngwladol Mozilla
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2023
Llwyddiant Womenspire i Delyth Prys
Mae Pennaeth Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, Delyth Prys, wedi derbyn gwobr gan brif elusen Cymru ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a hynny am ei gwaith arloesol ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018
Macsen yn siarad mwy
Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn mynd yn fwy clyfar bob dydd. Erbyn hyn mae gan lawer o bobl yng Nghymru ddyfeisiau fel Alexa, Siri, a Google Now sy’n medru ateb cwestiynau ar lafar am y tywydd, newyddion a ffeithiau defnyddiol eraill. Maen nhw hyd yn oed yn medru ymateb i lais yn gofyn iddyn nhw gynnau’r golau, troi’r trydan ymlaen neu bethau tebyg. Yn anffodus, dim ond yn Saesneg mae’r rhain yn gweithio, ond rydyn ni gam yn nes at gael system debyg yn Gymraeg gyda Macsen, sy’n ffrwyth gwaith ym Mhrifysgol Bangor, gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Ar y dechrau roedd Macsen yn medru ymateb i orchmynion syml yn unig, ond erbyn hyn mae hefyd yn medru ateb cwestiynau eraill, a mynd i’r erthyglau mwyaf poblogaidd yn y Wicipedia Cymraeg a chael hyd i wybodaeth ddefnyddiol yno. Mae’n ddarllen allan y paragraff cyntaf o erthygl, neu benawdau’r newyddion, gan ddefnyddio llais synthetig.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018
Meddalwedd iaith ar gael am ddim i helpu gydag addysgu a gweithio gartref yn ystod y pandemig coronafeirws – a thu hwnt
Mae Cysgliad, pecyn meddalwedd sy'n cynnwys gwirydd iaith a gramadeg Cymraeg, yn awr ar gael i'w lwytho i lawr am ddim yn sgil partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru. Y gobaith yw y bydd hyn yn cefnogi disgyblion sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a'u rhieni, yn ogystal â phobl sy'n gweithio gartref a sefydliadau bychain yn ystod y pandemig coronafeirws - a thu hwnt
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2020
Prifysgol Bangor yn helpu Mozilla gyda thechnoleg lleferydd Cymraeg
Mae Mozilla, y cwmni rhyngwladol o Galifornia sy’n gyfrifol am y porwr gwe Firefox, newydd lansio eu cynllun Common Voice amlieithog. Ar ôl cychwyn gyda Saesneg y llynedd, mae tair iaith newydd yn cael eu hychwanegu yn awr, sef y Gymraeg, Almaeneg, a Ffrangeg. Llwyddodd y Gymraeg i gyrraedd y brig oherwydd cymorth gan yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr , Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018
Prosiect i roi llais i siaradwyr Cymraeg sy'n dioddef o ganser y llwnc
Mae prosiect sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru i helpu siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais i barhau i gyfathrebu drwy eu mamiaith wedi derbyn ymweliad gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2018
RoboLlywydd a Lleisiau Cymraeg eraill
Mae Prifysgol Bangor wedi creu offer newydd ar gyfer cynhyrchu lleisiau synthetig Cymraeg sy’n swnio’n naturiol iawn. Bydd y lleisiau hyn yn gallu darllen yn uchel unrhyw destun o gyfrifiadur neu ddyfais symudol. Fel rhan o broject Macsen , a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, datblygwyd dull cyflym a hawdd o baratoi promptiau, recordio llais unigolyn yn eu darllen, a defnyddio gwybodaeth am seiniau’r Gymraeg i adeiladu lleisiau synthetig sy’n swnio’n debyg iawn i lais yr unigolyn a recordiwyd. Yn nigwyddiad SeneddLab2017 yng Nghaerdydd yn ddiweddar, cafodd tîm Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr gyfle i roi hyn ar brawf, gan adeiladu llais newydd mewn un awr i roi gwybodaeth lafar am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i alw yn ‘RoboLlywydd’.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2017
Seminar Rhyngwladol ar Derminoleg a Lecsicograffeg
Byddwn yn cynnal seminar rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor ar y 4 Medi ar y testun “Adnoddau ar gyfer Terminoleg a Lecsicograffeg: Yr hyn sydd gennym a’r hyn sydd ei angen arnom”. Bydd gennym siaradwyr gwadd o wahanol sefydliadau terminoleg ac addysg uwch yn Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2017
Seminar Ymchwil 20 Mai 2022 - “Machine learning and natural language processing in support of interactive automated tutoring for non-native English writers”
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2022
Seminar Ymchwil 24 Tachwedd 2022 - ‘Datblygiad Theori Trosiadau o fewn y Traddodiad Gorllewinol”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2022
Seminar Ymchwil 27 Hydref 2022 - ‘Termau Hil ac Ethnigrwydd.”
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2022
Seminar Ymchwil 29 Ebrill 2022 - Swyddogaeth safoni iaith yn atal difodiant: perthnasedd syniadau Herder a Fichte heddiw
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2022
Seminar Ymchwil 29 Medi 2022 -‘“BU-TTS: An Open-Source Bilingual Welsh-English, Text-to-Speech Corpus.”
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2022
Seminar Ymchwill 24 Mehefin 2022 -“Datblygiad a Gwerthusiad Adnabod Lleferydd ar gyfer y Gymraeg.”
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2022
Swydd Peiriannydd Meddalwedd ar Gael
Rydym yn chwilio am beiriannydd meddalwedd ychwanegol i weithio yn yr Uned Technolegau Iaith. Dyma gyfle gwych i ymuno gyda thîm arloesol sy'n datblygu adnoddau a chydrannau technolegau iaith a lleferydd ar gyfer y Gymraeg. Mwy o fanylion ar gael yma
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2020
Swydd Terminolegydd / Terminolegydd Cynorthwyol (cyfnod mamolaeth)
Cyfle gwych i chi ymuno â chriw terminolegwyr Prifysgol Bangor: swydd dros dro cyfnod mamolaeth. Gweld - https://jobs.bangor.ac.uk/details.php.cy?id=QR0FK026203F3VBQB7V68LOPI&nPostingID=5389&nPostingTargetID=5735&mask=extcy&lg=CY
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2021
Swydd Terminolegydd Cynorthwyol Dros Dro
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2022
Symposiwm Academaidd & Cynhadledd Technoleg a'r Cymraeg
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein Symposiwm Academaidd Technolegau Iaith Cymru 2020 https://symposiwm2020.bangor.ac.uk/cy ar 4 Tachwedd eleni. Hefyd, cadwch y dyddiad 26 Chwefror 2021 ar gyfer ein Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg nesaf. Gw. http://techiaith.cymru/cynadleddau/cynhadledd-2021/
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2020
Symposiwm Academaidd Technolegau Iaith Cymru 2022
Cofrestru ar agor ar gyfer Symposiwm Academaidd Technolegau Iaith Cymru 2022 https://symposiwm.bangor.ac.uk/cofrestru
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2021
Symposiwm Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, 18 Medi, 2020
Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r alwad gyntaf am bapurau ar gyfer Symposiwm Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, 18 Medi, 2020. Dyma’r symposiwm academaidd cyntaf yn y maes ar gyfer ymchwilwyr Cymru. Mae croeso cynnes i ymchwilwyr, academyddion a myfyrwyr gyfrannu ato. http://symposiwm2020.bangor.ac.uk/cy
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019
Technoleg Gymraeg yn Hwb i’r Economi
Gall technolegau arloesol Cymraeg fod yn hwb i economi gogledd Cymru – dyna oedd un o brif negeseuon Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg . Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd yn ddiweddar (20 Ionawr) yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2017
YR UNED TECHNOLEGAU IAITH WEDI ENNILL ARDYSTIAD ISO 27001:2013
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2023
YSGOLORIAETH MRES KESS
Cyfle gwych am ysgoloriaeth MRes gyda chriw’r Uned Technolegau Iaith a’r Adran Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.Mwy o fanylion ar gael http://kess2.ac.uk/cy/buk2e067-2/
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2021
Ymchwil Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn dylanwadu ar yr agenda Ewropeaidd
Mae ymchwil ac adnoddau arbenigol Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr wedi derbyn sylw yn Senedd Ewrop yn ddiweddar, wrth i Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, gyfeirio mewn araith at waith yr Uned fel bod ar flaen y gad ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol. Roedd yr ASE yn cyflwyno canfyddiadau ar argymhellion y Digital Language Diversity Project (DLDP) yn eu hadroddiad ar sicrhau cyfartaledd ieithyddol mewn technoleg ddigidol. Yn dilyn yr araith gan Jill Evans ASE, gwahoddwyd pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, Delyth Prys, a Phrif Beiriannydd Meddalwedd yr Uned, Dewi Bryn Jones, i siarad mewn cynhadledd ar dechnolegau iaith a chydraddoldeb digidol oddi fewn i Ewrop amlieithog.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018
Ysgoloriaeth MRes KESS - Ail Hysbyseb
Oherwydd amgylchiadau arbennig cynigir unwaith eto ysgoloriaeth blwyddyn i astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil neu MRes ar y pwnc “ Safoni Termau Cyfraith Teulu'n Gymraeg drwy gyfrwng Ontoleg ”. Ariannir y project hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant Ewrop (ESF) ac fe’i noddir hefyd gan W asanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi (HM Courts and Tribunals Service) fel partner allanol y project.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019
Ysgoloriaeth MRes KESS - Ontoleg Cyfraith Teulu a’r Gymraeg
Cynigir ysgoloriaeth blwyddyn i astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil neu MRes ar y pwnc “ Safoni Termau Cyfraith Teulu'n Gymraeg drwy gyfrwng Ontoleg ”. Ariannir y project hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant Ewrop (ESF) ac fe’i noddir hefyd gan W asanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi (HM Courts and Tribunals Service) fel partner allanol y project.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2019
Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Dwyieithrwydd
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Dwyieithrwydd . Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019