Prifysgol Bangor yn helpu Mozilla gyda thechnoleg lleferydd Cymraeg

Mae Mozilla, y cwmni rhyngwladol o Galifornia sy’n gyfrifol am y porwr gwe Firefox, newydd lansio eu cynllun Common Voice amlieithog. Ar ôl cychwyn gyda Saesneg y llynedd, mae tair iaith newydd yn cael eu hychwanegu yn awr, sef y Gymraeg, Almaeneg, a Ffrangeg. Llwyddodd y Gymraeg i gyrraedd y brig oherwydd cymorth gan yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.

Eglurodd Dewi Bryn Jones, prif beiriannydd meddalwedd yr Uned: “Fe wnaethon ni ddatblygu’r ap Paldaruo rhyw ddwy flynedd cyn i Mozilla ddechrau’r project Common Voice. Mae’r ddau fel ei gilydd yn arfau i dorfoli recordio pobl yn darllen promptiau yn uchel, er mwyn eu defnyddio i greu offer adnabod lleferydd. Roedd Mozilla wrth eu bodd ein bod ni eisoes wedi gwneud project o’r fath, ac yn awyddus i fanteisio ar ein profiad ni. Fe benderfynon ni gydweithio â nhw felly, a rhoi ein holl bromptiau iddyn nhw fel man cychwyn ar gyfer eu set o bromptiau Cymraeg. Dyna sut mae’r Gymraeg yn un o’u hieithoedd cyntaf nhw yn y project yma, yn wahanol iawn i sefyllfa ieithoedd lleiafrifol fel arfer.”

Mae Mozilla yn awr yn gwahodd unrhyw un i recordio eu lleisiau ar wefan Common Voice. Cyfeiriad y wefan yw : https://voice.mozilla.org/cy ac mae’r ap ar gael o https://itunes.apple.com/us/app/project-common-voice-by-mozilla/id1240588326. Y gobaith yw y bydd y bartneriaeth rhwng Mozilla a Phrifysgol Bangor yn tyfu, ac y bydd y gweithgaredd hwn hefyd yn symbylu cwmnïau mawr eraill i gynnwys y Gymraeg yn gynnar yn eu cynlluniau rhyngwladol. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018