Llwyddiant Womenspire i Delyth Prys

Mae Pennaeth Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, Delyth Prys, wedi derbyn gwobr gan brif elusen Cymru ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a hynny am ei gwaith arloesol ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol.

Mae Delyth yn arwain tîm o raglennwyr, datblygwyr meddalwedd a therminolegwyr yn yr Uned Technolegau Iaith, uned arbenigol yng Nghanolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor. Mae’r uned yn arloesi ar ymchwilio a datblygu technolegau testun a lleferydd, safoni termau, ac agweddau eraill ar Brosesu Iaith Naturiol ac Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol. Mae ei phrif ffocws ar y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill, ac ar agweddau amlieithog cyfathrebu. Ymhlith diddordebau arbennig yr uned mae adfywio ieithoedd drwy dechnolegau iaith, a galluogi ieithoedd llai eu hadnoddau i ffynnu yn yr oes ddigidol.Delyth PrysDelyth Prys

Derbyniodd wobr y ‘Building Wales Award’ yn nigwyddiad blynyddol y Womenspire Awards yng Nghaerdydd ar 5 Mehefin. Mae’r gwobrau yn cael eu trefnu a’u cynnal gan elusen Chwarae Teg, elusen sy’n hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac mae gwobrau blynyddol Womenspire yn dathlu llwyddiannau merched ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru.

Roedd y categori ‘Building Wales’ yn canolbwyntio ar fenywod sy’n gweithio ym maes gwyddoniaeth, adeiladu, technoleg a pheirianneg. Ei nod yw dathlu'r menywod hynny sy'n adeiladu Cymru newydd trwy hyrwyddo eu taith gyrfa eu hunain a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w sectorau. Enwebwyd Dr Yueng-Djern Lenn o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn yr un categori.

Meddai Delyth ar derfyn y noson wobrwyo:

“Mae’n anrhydedd fawr i fi, ac roeddwn i wrth fy modd yn derbyn y wobr. Mae’n gydnabyddiaeth o waith o’r tîm cyfan yn yr Uned Technolegau Iaith, ac rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am fy enwebu. Mae ymchwil i greu offer cyfathrebu cyfrifiadurol Cymraeg mor bwysig ar gyfer dyfodol yr iaith, ac roedd hi’n wych cael y cyfle i roi cyhoeddusrwydd i’n gwaith.”

Yn llongyfarch Delyth ar dderbyn y wobr, meddai Dirprwy Is-ganghellor (Cyfrwng Cymraeg ac Ymgysylltu â’r Gymuned) Prifysgol Bangor, Yr Athro Jerry Hunter:

“Llongyfarchiadau mawr i Delyth ar ei llwyddiant haeddiannol yng ngwobrau Womenspire elusen Chwarae Teg. Mae’r gwaith y mae’n ei gyflawni yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn gyfraniad allweddol at ffyniant y Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eraill, ac yn ysbrydoliaeth i fenywod eraill i ddatblygu gyrfaoedd gwerthfawr yn y maes pwysig hwn.”

Mae Prifysgol Bangor yn ymrwymedig i hyrwyddo gyrfaoedd menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg (STEMM), egwyddorion sydd wedi eu hymgorffori yn rhan o fenter Siarter Athena Swan. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i ennill y Wobr Efydd ac wedi ymrwymo i wella ar hynny. Mae mentrau a phrojectau Athena SWAN yn rhoi sylw i staff a myfyrwyr ac o fudd i’r naill a’r llall.

Ceir mwy o wybodaeth am elusen Chwarae Teg a Gwobrau Womenspire yma: https://www.cteg.org.uk/cy/

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018