Cyhoeddi project newydd i ddarparu fersiwn synthetig Cymraeg o’u llais eu hun i bobl sy’n colli eu lleferydd

Mae Uned Technolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, wedi ennill grant o £20,000 i ddatblygu rhaglen fydd yn recordio lleisiau pobl sydd mewn perygl o golli’r gallu i siarad oherwydd canser y gwddf neu glefydau eraill, a chynhyrchu fersiwn synthetig sy’n swnio’n naturiol o lais pob unigolyn. Ar hyn o bryd dim ond ar gyfer siarad Saesneg mae’r gwasanaeth hwn ar gael, ond bydd hyn am y tro cyntaf yn caniatáu i gleifion barhau i allu siarad Cymraeg gyda’u llais eu hun, yn hytrach na llais synthetig cyffredinol sy’n swnio fel robot neu lais rhywun arall. Bydd yr UTI yn gweithio gydag awdurdodau iechyd a therapyddion lleferydd i gynnig y gwasanaeth drwy Gymru.

Dywedodd Delyth Prys, Pennaeth yr Uned:

“Fe wnaethon ni arddangos ein hadnoddau testun-i-leferydd Cymraeg ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol nôl ym mis Awst gan recordio ac adeiladu nifer o leisiau newydd yno ar gyfer ymwelwyr. Fe soniodd sawl un am deuluoedd a chyfeillion a oedd angen technoleg o’r fath i’w cynorthwyo i gyfathrebu yn y Gymraeg gyda’u lleisiau eu hunain ar ôl eu colli.”

Mae’r  UTI wedi bod yn arloesi ym maes technoleg lleferydd Cymraeg ers rhai blynyddoedd bellach, a hefyd wrthi’n datblygu cynorthwyydd digidol personol Cymraeg o’r enw Macsen, unwaith eto gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Meddai Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd yr UTI, “gan fod y Gymraeg yn iaith leiafrifol, rydyn ni wedi gorfod meddwl am ddulliau newydd a gwahanol o greu adnoddau iaith. Diolch i lawer iawn o wirfoddolwyr, fe wnaethon ni dorfoli corpws lleferydd drwy ddefnyddio’r ap Paldaruo, a bydd y canlyniadau hynny yn bwydo i mewn i’r project hwn.”

Enw’r rhaglen newydd fydd Lleisiwr, a bydd y gwaith o gychwyn recordio lleisiau cleifion yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Bydd y fersiwn cyntaf yn galluogi’r defnyddiwr i deipio ei neges ar fysellfwrdd, gyda’i lais ei hun yn ei lefaru yn uchel. Bydd fersiynau diweddarach yn caniatáu i ddefnyddiwr ddefnyddio ei lais ar ddyfeisiau symudol gyda bysellfyrddau Cymraeg.

Gweler hefyd project arall o dan yr un ffrwd ariannu.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2017