Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Newyddion Diweddaraf

Macsen yn siarad mwy

Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn mynd yn fwy clyfar bob dydd. Erbyn hyn mae gan lawer o bobl yng Nghymru ddyfeisiau fel Alexa, Siri, a Google Now sy’n medru ateb cwestiynau ar lafar am y tywydd, newyddion a ffeithiau defnyddiol eraill. Maen nhw hyd yn oed yn medru ymateb i lais yn gofyn iddyn nhw gynnau’r golau, troi’r trydan ymlaen neu bethau tebyg. Yn anffodus, dim ond yn Saesneg mae’r rhain yn gweithio, ond rydyn ni gam yn nes at gael system debyg yn Gymraeg gyda Macsen, sy’n ffrwyth gwaith ym Mhrifysgol Bangor, gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Ar y dechrau roedd Macsen yn medru ymateb i orchmynion syml yn unig, ond erbyn hyn mae hefyd yn medru ateb cwestiynau eraill, a mynd i’r erthyglau mwyaf poblogaidd yn y Wicipedia Cymraeg a chael hyd i wybodaeth ddefnyddiol yno. Mae’n ddarllen allan y paragraff cyntaf o erthygl, neu benawdau’r newyddion, gan ddefnyddio llais synthetig. 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018

Interniaeth Prifysgol Bangor

Mae cyfle yn yr Uned i fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Bangor wneud interniaeth 150 awr gyda ni rhwng Chwefror a Mai 2018 yn trawsgrifio rhagor o archif sain sylweddol y BBC. Dyma gyfle gwych i rywun sydd â diddordeb mewn trawsgrifio a thechnoleg iaith ddod i ddeall mwy am y maes a gweithio mewn awyrgylch ddifyr a chyffrous. Mae’r manylion llawn i’w cael yma.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2017

Cyhoeddi project newydd i ddarparu fersiwn synthetig Cymraeg o’u llais eu hun i bobl sy’n colli eu lleferydd

Mae Uned Technolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, wedi ennill grant o £20,000 i ddatblygu rhaglen fydd yn recordio lleisiau pobl sydd mewn perygl o golli’r gallu i siarad oherwydd canser y gwddf neu glefydau eraill, a chynhyrchu fersiwn synthetig sy’n swnio’n naturiol o lais pob unigolyn. Ar hyn o bryd dim ond ar gyfer siarad Saesneg mae’r gwasanaeth hwn ar gael, ond bydd hyn am y tro cyntaf yn caniatáu i gleifion barhau i allu siarad Cymraeg gyda’u llais eu hun, yn hytrach na llais synthetig cyffredinol sy’n swnio fel robot neu lais rhywun arall. Bydd yr UTI yn gweithio gydag awdurdodau iechyd a therapyddion lleferydd i gynnig y gwasanaeth drwy Gymru.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2017

2 INTERNIAETH PYTHEFNOS YR UN BBC / TECHNOLEGAU IAITH

Mae’r BBC wedi digido ei harchif sylweddol o raglenni radio Cymraeg. Ar y cyd gydag Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, mae’n archwilio dulliau arloesol newydd i fynegeio’r archif drwy ddefnyddio technoleg lleferydd Cymraeg. Bydd yr interniaid yn cynorthwyo mewn astudiaeth beilot fydd yn edrych ar sampl bach o’r data.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017

Seminar Rhyngwladol ar Derminoleg a Lecsicograffeg

Byddwn yn cynnal seminar rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor ar y 4 Medi ar y testun “Adnoddau ar gyfer Terminoleg a Lecsicograffeg: Yr hyn sydd gennym a’r hyn sydd ei angen arnom”. Bydd gennym siaradwyr gwadd o wahanol sefydliadau terminoleg ac addysg uwch yn Ewrop.


Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2017

Site footer