Ysgoloriaeth MRes KESS - Ail Hysbyseb

Ysgoloriaeth: Geirfa Gymraeg Cyfraith Teulu 

Gradd Meistr drwy Ymchwil  

Partneriaeth rhwng Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Ysgol y Gyfraith a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi

Mae ysgoloriaeth blwyddyn o £11,313 ar gael i rywun sydd â diddordeb yn y gyfraith a’r Gymraeg. Hefyd bydd y ffioedd cofrestru yn cael eu talu a bydd cyllideb deithio a datblygu hael ar gael i’r myfyriwr llwyddiannus. Caiff y project ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), Cydgyfeiriant Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Caiff ei noddi hefyd gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi (HM Courts and Tribunals Service) fel partner allanol y project a bydd cyfle i weithio gyda’r Gwasanaeth Llysoedd yn ystod y project.

Mae’r ysgoloriaeth ar gael i ddechrau arni rhwng nawr a Medi 2020. Mae’r union amser dechrau i’w gytuno rhwng y partneriaid. Gall fod yn addas i fyfyriwr 3edd flwyddyn gychwyn arni ar ôl cwblhau eu gradd, neu i rywun eisoes yn raddedig ac yn chwilio am gyfle i wneud gradd Meistr cychwyn arni ar unrhyw bwynt yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol.

Ysgoloriaeth Meistr drwy Ymchwil neu MRes 

Teitl: Safoni Termau Cyfraith Teulu'n Gymraeg drwy gyfrwng Ontoleg

Cefndir:  Nod yr ymchwil hwn fydd casglu a deall cysyniadau craidd Cyfraith Teulu yn Nghymru er mwyn creu ontoleg, sef set o gysyniadau yn dangos y berthynas rhyngddyn nhw. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i safoni’r termau Cymraeg a helpu i wella’r defnydd o’r Gymraeg yn y gyfundrefn llysoedd teulu.

Bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus ddilyn modiwl(au) perthnasol mewn Cyfraith Teulu a / neu Iaith yn ôl yr angen am hyfforddiant pellach.

Goruchwylwyr Academaidd: 

Y goruchwylwyr fydd Delyth Prys o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, a Hayley Roberts a Marie Parker o Ysgol y Gyfraith. Bydd cyfle hefyd i weithio gyda Goruchwyliwr Diwydiannol o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi, a chysgodi rhai o weithwyr y Gwasanaeth Llysoedd wrth eu gwaith.

Bydd y myfyriwr yn gweithio yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, a bydd yn cofrestru yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor, at ddibenion datblygiad academaidd ac arholi.

Cymwysterau angenrheidiol: 

Rhaid i ymgeiswyr fod â gradd dosbarth cyntaf neu ail uchaf mewn pwnc perthnasol (Y Gyfraith, Cymraeg neu iaith fodern arall etc). Dylent fod â diddordeb yn y Gymraeg a’r gyfraith, ac yn frwdfrydig i wella gwasanaethau Cymraeg i blant a theuluoedd yng Nghymru. Gorau oll os gallant ddangos  prawf o ddiddordeb blaenorol yn y maes, er enghraifft project ymchwil perthnasol fel rhan o gwrs gradd.

Rhaid i fyfyrwyr sydd am fanteisio ar y cynllun hwn fod yn byw o fewn yr ardal Cydgyfeiriant yng Nghymru pan gânt eu cofrestru a rhaid iddynt fod yn gymwys i dderbyn gwaith cyflogedig yn yr ardal Cydgyfeiriant yng Nghymru ar ddiwedd yr ysgoloriaeth.

I wneud cais: 

Os hoffech ymgeisio am yr ysgoloriaeth hon danfonwch y canlynol at Delyth Prys erbyn 1 Tachwedd 2019 fan bellaf.

1. ffurflen gais KESS (sydd ar gael o wefan Prifysgol Bangor) i gynnwys Datganiad Personol (100 - 500 gair) am eich diddordebau a’ch sgiliau ymchwil perthnasol (rhestrwch eich holl sgiliau perthnasol, e.e. sgiliau cyfrifiadurol, profiad perthnasol, teitl a disgrifiad byr o brojectau ymchwil y buoch yn rhan ohonynt, etc). 

2. Enwau a manylion cyswllt dau ganolwr a all roi sylwadau ar eich addasrwydd i ymgymryd â rhaglen ymchwil ôl-raddedig. 

Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau e-bost yw 1 Tachwedd 2019. Dylech yrru copi caled wedi’i lofnodi hefyd at:

Delyth Prys 
Uned Technolegau Iaith

Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor 
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG

 

Gellir cael manylion pellach drwy gysylltu â Delyth Prys; ffôn: +44 1248 382800; e-bost d.prys@bangor.ac.uk.

Dyddiad cau i geisiadau: 1 Tachwedd 2019

Wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019