Newyddion: Tachwedd 2017
Cyhoeddi project newydd i ddarparu fersiwn synthetig Cymraeg o’u llais eu hun i bobl sy’n colli eu lleferydd
Mae Uned Technolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, wedi ennill grant o £20,000 i ddatblygu rhaglen fydd yn recordio lleisiau pobl sydd mewn perygl o golli’r gallu i siarad oherwydd canser y gwddf neu glefydau eraill, a chynhyrchu fersiwn synthetig sy’n swnio’n naturiol o lais pob unigolyn. Ar hyn o bryd dim ond ar gyfer siarad Saesneg mae’r gwasanaeth hwn ar gael, ond bydd hyn am y tro cyntaf yn caniatáu i gleifion barhau i allu siarad Cymraeg gyda’u llais eu hun, yn hytrach na llais synthetig cyffredinol sy’n swnio fel robot neu lais rhywun arall. Bydd yr UTI yn gweithio gydag awdurdodau iechyd a therapyddion lleferydd i gynnig y gwasanaeth drwy Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2017
Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae cyfle yn yr Uned i fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Bangor wneud interniaeth 150 awr gyda ni rhwng Chwefror a Mai 2018 yn trawsgrifio rhagor o archif sain sylweddol y BBC. Dyma gyfle gwych i rywun sydd â diddordeb mewn trawsgrifio a thechnoleg iaith ddod i ddeall mwy am y maes a gweithio mewn awyrgylch ddifyr a chyffrous. Mae’r manylion llawn i’w cael yma.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2017