Leena a Preben yn dod i’r brig yng nghystadleuaeth ryngwladol Mozilla

Llongyfarchiadau mawr i Preben Vangberg a Leena Farhat, aelodau staff yr Uned Technolegau Iaith a myfyrwyr doethuriaeth Prifysgol Bangor sydd wedi ennill cystadleuaeth ryngwladol un o gwmnïau mawr y byd digidol, Mozilla Common Voice.

Ym mis Mehefin, 2022 cyhoeddodd Mozilla eu cystadleuaeth ‘Our Voices’. Y dasg oedd dylunio model adnabod lleferydd gyda’r nod o annog amrywiaeth a chynhwysiant. Ar ôl derbyn ceisiadau o bedwar ban byd, mae Mozilla wedi cyhoeddi’r pedwar enillydd ym mhob categori, gyda Preben a Leena yn eu plith.

Mae eu model buddugol wedi’i greu ar gyfer iaith leiafrifol o’r Swistir, Romansh a dau o brif dafodieithoedd yr iaith (Sursilvan a Vallader). Cafodd y model ei ganmol am ei berfformiad, cyfradd gwall isel a’i gyfraniad gwerthfawr i iaith llai ei hadnoddau.

Ar ôl graddio gyda MSc mewn Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, mae Preben a Leena bellach yn gweithio fel ymchwilwyr cynorthwyol rhan amser yn yr Uned Technolegau Iaith ac yn gysylltiedig gyda’u gweithgaredd Common Voice Cymraeg. Mae pawb yn yr Uned yn hynod falch o’u llwyddiant!

Darllenwch mwy: https://foundation.mozilla.org/en/blog/announcing-mozillas-common-voice-our-voices-competition-winners/

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2023