Meddalwedd iaith ar gael am ddim i helpu gydag addysgu a gweithio gartref yn ystod y pandemig coronafeirws – a thu hwnt

 Mae Anest Heulfryn Smith, sy'n 11 oed ac fel arfer yn mynychu Ysgol Gynradd Bontnewydd, wedi bod yn defnyddio Cysgliad tra'n derbyn addysg gartref. Mae Anest Heulfryn Smith, sy'n 11 oed ac fel arfer yn mynychu Ysgol Gynradd Bontnewydd, wedi bod yn defnyddio Cysgliad tra'n derbyn addysg gartref. Mae Cysgliad, pecyn meddalwedd sy'n cynnwys gwirydd iaith a gramadeg Cymraeg, yn awr ar gael i'w lwytho i lawr am ddim yn sgil partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru.

Y gobaith yw y bydd hyn yn cefnogi disgyblion sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a'u rhieni, yn ogystal â phobl sy'n gweithio gartref a sefydliadau bychain yn ystod y pandemig coronafeirws - a thu hwnt.

Lansiwyd y fersiwn gyntaf o'r gwirydd sillafu Cymraeg - CySill - yn 1988. Hyd yma, bu rhaid i ddefnyddwyr dalu am drwydded i ddefnyddio'r feddalwedd, sydd bellach yn cynnwys geiriaduron a gwirydd gramadeg, ar eu cyfrifiadur Windows.

Ond o heddiw ymlaen, gall unigolion, ysgolion a sefydliadau sy'n cyflogi llai na 10 o bobl lwytho'r pecyn i lawr a'i ddefnyddio am ddim.

Daw hyn fel rhan o becyn o gefnogaeth i helpu plant a'u teuluoedd, a'r cyhoedd yn gyffredinol, i ddefnyddio'r Gymraeg wrth weithio gartref yn ystod yr argyfwng presennol.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru fod adnoddau ychwanegol yn cael eu rhyddhau i gefnogi dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn ystod y pandemig coronafeirws, ac mae Cysgliad am ddim yn un ohonynt.

Meddai: "Rwy'n arbennig o falch fod Cysgliad yn awr ar gael am ddim i unigolion a sefydliadau bychain, o ganlyniad i'r bartneriaeth hon rhwng Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor. 

"Bydd hyn o fudd mawr yn arbennig i rieni di-Gymraeg sydd â'u plant yn mynychu ysgolion Cymraeg, yn ogystal â'r disgyblion eu hunain, busnesau bychain, elusennau ac eraill sy'n defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd."

Ychwanegodd Delyth Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor: "Roedden ni’n gwybod o adborth defnyddwyr dros y blynyddoedd fod Cysgliad yn declyn hynod werthfawr i bobl sy'n ysgrifennu a defnyddio'r Gymraeg - ac mae'n help mawr i gynyddu hyder.

"Rydyn ni’n falch iawn fod y drwydded am ddim ar gael i helpu pobl sy'n dysgu, addysgu a gweithio gartref yn ystod y cyfnod anodd hwn. Edrychwn ymlaen at weld rhagor o bobl o bob oed yn llwytho Cysgliad i lawr ac yn defnyddio'r feddalwedd, ac yn cael mwy o hyder i ddefnyddio'r iaith o wneud hynny."

Mae Anest Heulfryn Smith, sy'n 11 oed ac fel arfer yn mynychu Ysgol Gynradd Bontnewydd, wedi bod yn defnyddio Cysgliad tra'n derbyn addysg gartref. Meddai: "Da ni'n defnyddio Cysgliad yn yr ysgol ac mae'n help mawr i wirio fy sillafu.

"Dwi hefyd yn hoffi defnyddio'r geiriadur a'r thesawrws i wella fy ngeirfa a dod o hyd i ffyrdd mwy diddorol o ddisgrifio pethau pan dwi'n sgwennu. Mae'n dda bod plant fel fi yn gallu defnyddio Cysgliad gartef i helpu gyda'n gwaith ysgol."

Mae Tim Albin o Gwm-y-Glo yn rhedeg asiantaeth brandio a dylunio. Mae ar hyn o bryd yn addysgu ei ddau fab, Oscar, 14 a Milo, 10, gartref tra hefyd yn rhedeg y busnes. Meddai Tim: "Mae Cymraeg yn ail iaith i mi, felly mae'n wych cael rhywbeth ymarferol fel hyn i fy helpu i helpu'r hogiau gyda'u pynciau cyfrwng Cymraeg tra mae'r ysgolion yn dal ar gau.

"Mae'r pecyn hefyd yn ddefnyddiol iawn pan dwi'n gweithio ar brosiectau dwyieithog i gleientiaid, trwy fedru gwirio fy iaith a gramadeg wrth wneud tasgau fel datblygu cysyniadau a drafftio negeseuon e-bost."

I lwytho Cysgliad i lawr am ddim, ewch i www.Cysgliad.com

Mae Cysgliad yn rhedeg ar ddyfeisiadau Windows 7, 8 a 10. Gall defnyddwyr MacOS a Linux ddefnyddio adnoddau ar-lein sydd ar gael ar wefan Cysgliad.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2020