Technoleg Gymraeg yn Hwb i’r Economi

Y Gweinidog Alun Davies gyda’r Athro David Shepherd a Delyth Prys o Brifysgol Bangor.Y Gweinidog Alun Davies gyda’r Athro David Shepherd a Delyth Prys o Brifysgol Bangor.Gall technolegau arloesol Cymraeg fod yn hwb i economi gogledd Cymru – dyna oedd un o brif negeseuon Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg. Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd  yn ddiweddar (20 Ionawr) yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor.

Roedd y Gynhadledd  hefyd yn arddangos datblygiadau cyffrous mewn technoleg lleferydd Cymraeg, yn trafod sut all y Gymraeg helpu ieithoedd eraill, ac yn egluro’r ffordd mae’r dechnoleg yn helpu datblygu economi Cymru. Noddwyd y gynhadledd gan Lywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Agorwyd y gynhadledd gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies ac fe’i croesawyd i Brifysgol Bangor gan yr Athro David Shepherd, y Dirprwy i’r Is-Ganghellor.  

Dywedodd  y Gweinidog Alun Davies AC:  “Mae sicrhau fod isadeiledd cadarn i’r iaith Gymraeg yn hollbwysig yn y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a bydd yn parhau yn flaenoriaeth wrth i ni ddatblygu’n strategaethau iaith i’r dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn technolegau iaith, fel y rhai arloesol cafodd eu lansio heddiw.

“Defnydd o’r Gymraeg sy’n bwysig; mae’n hanfodol fod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael gafael ar dechnoleg i gefnogi eu defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd.”

Trefnwyd y gynhadledd gan Delyth Prys, pennaeth yr Uned Technolegau Iaith (UTI) a leolir yng Nghanolfan Bedwyr.

Dywedodd Delyth “Mae’r Llywodraeth wedi bod yn hael iawn yn noddi ein project Macsen, sy’n datblygu cynorthwyydd personol Cymraeg tebyg i Alexa, Siri neu Cortana, ac roedd hi’n dda iawn cael dangos y cynnydd diweddaraf i Alun Davies. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi noddi ysgoloriaeth KESS i fyfyriwr PhD weithio ar dechnoleg lleferydd Cymraeg gyda ni a’r Ysgol Ieithyddiaeth, ac roedd hi’n braf iawn i’r Gweinidog gael cyfarfod gyda’r myfyriwr, Indeg Williams.”

Yn ogystal â siaradwyr o Gymru, roedd Mohomodou Houssouba o Brifysgol Basel yn y Swistir, sydd yn wreiddiol o Mali, yn siarad ar sut roedd wedi addasu technoleg cyfieithu yr UTI i weithio gyda’r Ffrangeg a’r Songhay, a sut y gellir defnyddio technoleg fel hyn ar draws ieithoedd i arbed costau datblygu. Siaradwr gwadd arall oedd Cathal Convery, Rheolwr Project Geiriadur Foras na Gaeilge yn Iwerddon, yn trafod eu Cynllun Digidol newydd ar gyfer y Wyddeleg.

Yn y prynhawn bu cwmnïau meddalwedd o Gymru yn dangos cynnyrch masnachol i gynorthwyo’r Gymraeg. Yn eu plith roedd cwmni Galactig sy’n gwneud apiau a chynnyrch teledu Cymraeg; Inteceptor Solutions sy’n gwneud LinguaSkin, sef rhyngwynebau amlieithog i wefannau; cwmni cyfryngau rhyngweithiol Moilin; a Semantise  Ltd. sy’n gwneud meddalwedd dwyieithog i’r sector addysg.

Yn ôl Stefano Ghazzali, datblygwr meddalwedd yn yr UTI a chadeirydd y sesiwn ar Y Gymraeg a’r Economi:

“Roedd hi’n galonogol gweld cymaint o gwmnïau Cymreig yn dod â chynnyrch arloesol i’r farchnad, yn creu swyddi newydd ac yn cefnogi’r iaith Gymraeg ar yr un pryd.”

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd cyflwyniad Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd yr UTI, ar Macsen ac Adnabod Lleferydd Cymraeg. Mae hwn yn faes sy’n symud ymlaen yn gyflym, gyda dulliau niwrol newydd, sy’n efelychu sut mae’r ymennydd dynol yn gweithio, yn dangos addewid mawr i wella’r dechnoleg ar gyfer pob iaith. Bydd yr UTI yn rhoi ffrwyth y project Macsen ar wefan y Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol, lle gall unrhyw un, gan gynnwys cwmnïau masnachol, gael at yr adnoddau i’w defnyddio yn eu cynnyrch eu hun.

 

Rhaglen y gynhadledd Technoleg a’r Gymraeg: 

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2017