Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Dwyieithrwydd
Math Cymhwyster: PhD
Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: 24 Mai 2019
Swm cyllid: Mae’r efrydiaeth yn cynnwys cost lawn ffioedd dysgu ynghyd â thâl cynnal gwerth c.£15,000 y flwyddyn, am dair blynedd yr efrydiaeth.
Dyddiad Dechrau: 01 Hydref 2019
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Dwyieithrwydd. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor. Disgwylir i’r traethawd doethurol gael ei baratoi a’i gyflwyno yn y Gymraeg. Mae’r ysgoloriaeth ar gael am gyfnod o dair blynedd ar gyfer ymchwil yn arwain at ddoethuriaeth. Bydd disgwyl i’r myfyriwr llwyddiannus hefyd wneud peth gwaith dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth fel un o amodau’r Ysgoloriaeth.
Lle gallaf i gael hyd i fwy o wybodaeth?
Am fanylion llawn am yr ysgoloriaeth dilynwch y cyswllt yma.
Dylid cyfeirio ymholiadau am y project at: Dr Thora Tenbrink (t.tenbrink@bangor.ac.uk / 01248 382263).
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019