Croeso i’r wefan Rhwydwaith Ymchwil Technoleg ac Iaith
Grŵp o ymchwilwyr sy’n cydweithio ar draws gwahanol adrannau a cholegau ym Mhrifysgol Bangor yw’r Rhwydwaith Ymchwil Technoleg ac Iaith. Ein prif ffocws yw’r Gymraeg, ieithoedd eraill dan fygythiad, ac ieithoedd llai eu hadnoddau. Mae ein diddordebau ymchwil yn cwmpasu:
- Technolegau prawfddarllen a thestun
- Testun i leferydd ac adnabod lleferydd
- Technoleg cyfieithu
- Deallusrwydd artiffisial a chyfathrebu dynol
- Polisïau adfer iaith a thechnoleg
- Terminoleg, gan gynnwys socioterminoleg
- Corpora electronig
- Geiriadura electronig
- Safonau termau, iaith ac adnoddau iaith
Rydym yn cydweithio ar wahanol brojectau ymchwil, gan gynnwys cydoruchwylio myfyrwyr PhD mewn meysydd trawsddisgyblaethol, ac yn cynnal cyfarfodydd a seminarau achlysurol mewn meysydd o ddiddordeb i ni.