Newyddion: Hydref 2019

Symposiwm Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, 18 Medi, 2020

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r alwad gyntaf am bapurau ar gyfer Symposiwm Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, 18 Medi, 2020. Dyma’r symposiwm academaidd cyntaf yn y maes ar gyfer ymchwilwyr Cymru. Mae croeso cynnes i ymchwilwyr, academyddion a myfyrwyr gyfrannu ato. http://symposiwm2020.bangor.ac.uk/cy

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019

Ysgoloriaeth MRes KESS - Ail Hysbyseb

Oherwydd amgylchiadau arbennig cynigir unwaith eto ysgoloriaeth blwyddyn i astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil neu MRes ar y pwnc “ Safoni Termau Cyfraith Teulu'n Gymraeg drwy gyfrwng Ontoleg ”. Ariannir y project hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant Ewrop (ESF) ac fe’i noddir hefyd gan W asanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi (HM Courts and Tribunals Service) fel partner allanol y project.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019

Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd yn anrhydeddu tri ymchwilydd o Brifysgol Bangor

Mewn seremoni arbennig i gyflwyno Anrhydeddau’r RCSLT (Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd) yn Nottingham yn ystod eu cynhadledd flynyddol fis Medi, dyfarnwyd gwobr “Giving Voice” i Delyth Prys, Dewi Bryn Jones a Stefan Ghazzali o Uned Technolegau Iaith , Canolfan Bedwyr . Roedd y tri, drwy eu project Lleisiwr, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi datblygu meddalwedd i greu llais synthetig personol yn y Gymraeg a fyddai’n gymorth i gleifion oedd ar fin colli eu llais eu hun. Roedd y project yn caniatáu bancio llais y claf yn Gymraeg a Saesneg a’i ddefnyddio i adeiladu fersiwn digidol ohono.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2019