2 INTERNIAETH PYTHEFNOS YR UN BBC / TECHNOLEGAU IAITH

ASTUDIAETH BEILOT I FYNEGEIO DEUNYDD ARCHIF CYMRAEG BBC CYMRU

Cyflog: £250 yr wythnos
Pryd: Gorffennaf-Awst 2017 (hyblyg o ran yr union ddyddiadau)
Ble: Swyddfeydd yr Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor

Pwy all ymgeisio?
Myfyrwyr israddedig/ôl-raddedig neu newydd raddio o Brifysgol Bangor.

Beth yw’r Project?
Mae’r BBC wedi digido ei harchif sylweddol o raglenni radio Cymraeg. Ar y cyd gydag Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, mae’n archwilio dulliau arloesol newydd i fynegeio’r archif drwy ddefnyddio technoleg lleferydd Cymraeg. Bydd yr interniaid yn cynorthwyo mewn astudiaeth beilot fydd yn edrych ar sampl bach o’r data.

Dyletswyddau’r interniaid:

  • Cynorthwyo i ddadansoddi metadata’r sampl
  • Trawsgrifio sampl o ffeiliau sain gan amseru’r broses
  • Arbrofi gydag alinio’r testun a’r ffeiliau sain drwy ddulliau lled awtomatig
  • Cynorthwyo i ysgrifennu adroddiad cryno yn adrodd ar ganlyniadau’r gwaith

Manyleb y person:
Does dim angen profiad blaenorol, ond byddai’r gallu i ddefnyddio Praat yn ddefnyddiol, hefyd diddordeb mewn technoleg iaith, ffoneteg, gwaith corpws a/neu ddarlledu. Hefyd bydd angen i’r interniaid feddu ar y canlynol:

  • Clyw da
  • Rhuglder yn y Gymraeg
  • Cymraeg ysgrifenedig cywir
  • Brwdfrydedd a’r gallu i weithio yn drefnus.

Sut i wneud cais:
Gyrrwch e-bost at Edith Hughes (edith.hughes@bbc.c.uk) a Delyth Prys (d.prys@bangor.ac.uk) erbyn canol dydd 20.07.17 yn cynnwys CV byr a rhif ffôn symudol i gysylltu â chi brynhawn 20.07.17 ar gyfer cyfweliad anffurfiol posib.

This is an advertisement for 2 internships with BBC Cymru Wales located at Bangor University for which fluency in Welsh is essential.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017